Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf 2014 i'w hateb ar 15 Gorffennaf 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae'r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Lynne Neagle (Torfaen):Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o’r effaith y mae’r broses o drosglwyddo i'r Taliad Annibyniaeth Bersonol yn ei chael ar bobl yng Nghymru? OAQ(4)1809(FM)

 

2. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y gyllideb ar gyfer dysgu Cymraeg i Oedolion? OAQ(4)1803(FM)W

 

3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar weithdrefnau unioni cwynion y GIG yng Nghymru? OAQ(4)1799(FM)

 

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio lesddeiliadaethau? OAQ(4)1796(FM)

 

5. Gwyn Price (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yn Islwyn? OAQ(4)1802(FM)

 

6. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)1808(FM)

 

7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bwysigrwydd sioeau amaethyddol, fel Sioe Frenhinol Cymru, i Gymru? OAQ(4)1798(FM)

 

8. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yng Nghymru? OAQ(4)1801(FM)

 

9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faint o weithiau y mae Llywodraeth Cymru wedi cael gorchymyn i ddatgelu gwybodaeth yn dilyn apêl i'r Comisiynydd Gwybodaeth? OAQ(4)1806(FM)

 

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch Prifysgol Glyndŵr? OAQ(4)1805(FM)W

 

11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl hŷn? OAQ(4)1800(FM)

 

12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw'r risgiau a'r manteision i Gymru o bartneriaeth drawsatlantig bosibl ar gyfer masnach a buddsoddi? OAQ(4)1810(FM)

 

13. David Rees (Aberafan):Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau'r canllawiau cynllunio mewn perthynas â chloddio glo brig? OAQ(4)1811(FM)

 

14. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gamau i hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg? OAQ(4)1812(FM)W

 

15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y polisïau ar gyfer adfywio y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflawni yn 2014? OAQ(4)1804(FM)